Croesau trymion sydd yn felus,
Pan yr elo hi'n brydnawn,
Dyfnder galar-sydd yn esgor,
Ar lawenydd hyfryd iawn;
O am weled, &c,
Bore wawr yn dawel glir.
Wrth fy nghuro gan y stormydd,
Wrth fy maeddu gan y donn;
Wrth fy nryllio yn erbyn creigiau,
Blinais ar y ddaear hon;
O am ddyddiau, &c.
Pan ddarfyddo pechu yn lān.
Fe ddaw'r groes ag sydd yn peri
I'm henaid heddyw grymmu lawr,
Ar y wawrddydd deg y fory,
A rhyw faith orfoledd mawr:
Mi ddisgwyliaf, &c.
Nes y gwawrio'r ddedwydd awr.
O na chawn ddifyrra nyddiau
Llwythog, dan dy werthfawr groes;
A phob meddwl wedi ei g'lymmu,
Wrth dy berson ddydd a nos,
Tan dy gysgod, &c.
Mewn tangnefedd pur a hedd.
Dyna'r man dymunwn drigo,
Wrth afonydd gloywon llawn,
Sydd yn llifo o ddw'r y bywyd,
O foreu-ddydd hyd brydnawn:
Lle cawn yfed, &c.
Hyfryd gariad byth a hedd.
Y mae hiraeth yn fy nghalon,
Heddyw am gael gwel'd y dydd,
Pan y caffo'm rhwymau eu tori,
A fy enaid fyn'd yn rhydd;
Yn lle rhyfel, &c.
Dim ond swn caniadau hedd.
William Williams 1717-91
[Mesur: 878747] gwelir: Duw anfeidrol yw dy enw (Llanw'r nefoedd llanw'r byd) Dyma Geidwad i'r colledig O gwasgerwch dew gymylau O na chawn ddifyru nyddiau O sancteiddia f'enaid Arglwydd Wrth fy nghuro gan y gwyntoedd Y mae rhinwedd gras y nefoedd |
Heavy crosses are sweet,
When it becomes evening,
The depth of lamentation is giving birth,
To very delightful joy;
O to see,
The morning dawn quietly clear.
Through my beating by the storms,
Through my battering by the wave;
Through my smashing against rocks,
I am wearied of this earth;
O for days,
When sinning will vanish completely.
The cross is coming which will cause
My soul today to strengthen below,
At the fair daybreak tomorrow,
And some vast, great jubilation:
I am waiting,
Until the happy hour dawns.
Oh that I may enjoy burdened
Days, under thy valuable cross;
And every thought knotted,
To thy person day and night,
Under thy shadow,
In pure tranquility and peace.
There is the place I desire to dwell,
By fully radiant rivers,
Which are flowing from the water of life,
From morning until evening:
Where I may get to drink,
Delightful love forever and peace.
There is a longing in my heart,
Today to get to see the day,
When I may get my bonds broken,
And my soul go free;
Instead of battle,
Only the sound of the songs of peace.
tr. 2015,19 Richard B Gillion
|
|